Mabwysiadu: Sut i wneud cais
Yr unig rai all wneud cais i’r panel adolygu yw’r rhai y mae eu hasiantaeth fabwysiadu’n rhoi gwybod iddynt nad yw’n eu hystyried yn addas i fod yn rhieni mabwysiadu neu sy’n tynnu eu cymeradwyaeth yn ôl ac y bu i’r panel ystyried eu hachos ddiwethaf ar yr 2il Ebrill 2010 neu ar ôl hynny.
Gwneud eich cais
Mae’n rhaid gwneud eich cais yn ysgrifenedig (a chael ei arwyddo gan y ddau ymgeisydd yn achos cyplau) a chynnwys y canlynol:
- Eich rhesymau dros anghytuno gyda dyfarniad eich asiantaeth fabwysiadu;
- dyddiad y llythyr a dderbynioch gan eich asiantaeth fabwysiadu’n rhoi gwybod i chi am y dyfarniad
- enw a chyfeiriad eich asiantaeth fabwysiadu. Bydd hyn yn eich galluogi ni i gael gwybodaeth ganddynt y bydd ar y Panel Adolygu ei hangen.
Mae’n rhaid i chi wneud eich cais o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad llythyr yr asiantaeth fabwysiadu.
Gallwch anfon eich cais atom ni drwy’r post, ffacs neu e-bost. Mae’n bwysig nad ydych yn anfon eich cais i unrhyw gyfeiriad arall gan y bydd hyn yn peri oedi wrth i’r panel adolygu ystyried eich cais.
Ein sianelau cymdeithasol
Hawlfraint Children in Wales 2022,
Cedwir Pob Hawl,
Elusen Gofrestredig 123456,
Cwmni cyfyngedig drwy warant 654321.
Web design by Teamworks