Maethu
Os ydych yn ddarpar ofalwr maeth neu’n ofalwr maeth parod sydd wedi derbyn dyfarniad cymhwyster yn ddiweddar nad ydych yn cytuno ag ef, mae gennych dri dewis:
- efallai y byddwch yn derbyn y cynnig
- 2. gallwch wneud sylwadau ysgrifenedig i’ch darparwr gwasanaeth maethu o fewn 28 diwrnod calendr i ddyddiad llythyr y darparwr, ac yn yr achos hwnnw, mae’n rhaid i’r darparwr gyfeirio’r achos yn ôl at eu panel maethu i adolygu’r cynnig hwnnw neu
- 3. gallwch wneud cais ysgrifenedig at IRM Cymru o fewn 28 diwrnod i lythyr y darparwr am adolygiad o ddyfarniad cymhwyster y darparwr gwasanaeth maethu.
Ond, ni allwch wneud rhif 2 a 3. Mae cost adolygu eich achos yn cael ei dalu gan eich darparwr.
Beth all IRM Cymru ei wneud drosoch chi
Mae IRM Cymru yn broses adolygu a weithredir gan Banel Adolygu sy’n annibynnol ar eich darparwyr gwasanaeth maethu.
Os byddwch yn dewis defnyddio IRM Cymru, bydd y panel adolygu, lle bo’n briodol:
- yn adolygu eich addasrwydd fel gofalwr maeth i blentyn maeth,
- yn adolygu unrhyw newidiadau a gynigir i’ch telerau cymeradwyo,
- gwneud argymhelliad o’r newydd i’ch asiantaeth ar eich addasrwydd i faethu plentyn a thelerau eich cymeradwyo, gan gynnwys cymeradwyaeth ar gyfer plentyn penodol.
Y pethau nad yw IRM Cymru yn eu gwneud
- Nid yw’n gwneud penderfyniad am eich achos sydd wedi ei wneud gan eich darparwr gwasanaeth maethu. Mae hyn oherwydd nad yw IRM Cymru yn awdurdod apeliadau uwch.
- Nid yw’n ystyried addasrwydd y cynllun gofal ar gyfer plentyn e.e. a ddylent gael eu maethu am dymor hir.
- Nid yw’n ymdrin â chwynion yn erbyn y darparwr gwasanaeth maethu. Dylid ymdrin â chwynion drwy weithdrefn gwynion y darparwr gwasanaeth maethu.
Sut mae’r Panel Adolygu’n gweithio
Mae’r Panel Adolygu’n ystyried yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud ei argymhellion:
- pob gwybodaeth a gyflwynwyd i’r panel mabwysiadu gwreiddiol;
- unrhyw wybodaeth berthnasol a dderbyniwyd gan y darparwr gwasanaeth maethu ar ôl i’r papurau gael eu hanfon at y panel maethu; a
- dyfarniad cymhwyster y darparwr a’r rhesymau ac argymhelliad panel maethu’r darparwr
- eich rhesymau dros ofyn am adolygiad.
- Unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gennych
Os bydd ar y Panel Adolygu angen mwy o wybodaeth, gwneir cais amdano gan eich darparwr gwasanaeth maethu cyn cyfarfod y panel, oni bai y byddai’n fwy priodol gofyn i chi’n uniongyrchol.
Cewch wahoddiad i fynychu’r cyfarfod a bydd ystafell aros ar wahân ar gael i chi a chynrychiolwyr eich darparwr gwasanaeth maethu. Bydd y Panel Adolygu yn eich cyfarfod chi a chynrychiolwyr eich darparwr i ofyn am eglurhad am wybodaeth a gynhwyswyd yn yr adroddiadau. Efallai y bydd angen iddynt gyfarfod ar wahân gyda’ch darparwr maethu yn ystod y cyfarfod er mwyn egluro unrhyw wybodaeth gyfrinachol gan drydydd parti nad oes gennych hawl i’w weld. Bydd y panel hefyd yn cael cyngor cyfreithiol a meddygol, pe bai’n dymuno gwneud hynny.
Canlyniadau a deilliannau
Mae’r Panel Adolygu yn gwneud ei argymhelliad ac fe gewch chi gopi o’r argymhelliad hwnnw a’r rhesymau. Anfonir copi o argymhelliad a rhesymau’r panel a set lawn o gofnodion at eich darparwr gwasanaeth maethu i’w helpu nhw i wneud penderfyniad.
Mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth maethu ystyried argymhelliad y panel adolygu, yn ogystal ag argymhelliad y panel maethu wrth wneud ei benderfyniad terfynol ar eich addasrwydd i faethu plentyn.
Rhestr Dermau
“Dyfarniad cymhwyster” yw’r dyfarniad y mae’r darparwr gwasanaeth maethu’n ei wneud eu bod:
- yn cynnig peidio â’ch cymeradwyo fel rhywun addas i fabwysiadu;
- yn dweud nad yw’n fodlon mwyach eich bod yn addas i fabwysiadu;
- yn bwriadu newid telerau eich cymeradwyaeth presennol
Ein sianelau cymdeithasol
Hawlfraint Children in Wales 2022,
Cedwir Pob Hawl,
Elusen Gofrestredig 123456,
Cwmni cyfyngedig drwy warant 654321.
Web design by Teamworks