Dateglu cofnodion mabwysiadu: Sut I wneud cais
Yr unig rai all wneud cais i’r panel adolygu yw’r rhai a fabwysiadwyd neu berthnasau gwaed, lle digwyddodd y mabwysiadu ar neu ar ol Rhagfyr 30ain 2005, ac nid ydynt yn cytuno gyda’r dyfarniad cymhwyster a roddwyd iddynt gan yr asiantaeth fabwysiadu.
Gwneud eich cais Mae’n rhaid i’ch cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a chynnwys y canlynol:
- Eich rhesymau dros anghytuno gyda dyfarniad eich asiantaeth fabwysiadu;
- dyddiad y llythyr a dderbynioch gan eich asiantaeth fabwysiadu’n rhoi gwybod i chi am y dyfarniad,
- enw a chyfeiriad eich asiantaeth fabwysiadu. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gael gwybodaeth ganddynt y bydd ar y Panel Adolygu ei angen.
Mae’n rhaid i chi wneud eich cais o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad llythyr yr asiantaeth fabwysiadu.
Gallwch anfon eich cais atom ni drwy’r post, ffacs neu e-bost. Mae’n bwysig nad ydych yn anfon eich cais i unrhyw gyfeiriad arall gan y bydd hyn yn peri oedi wrth i’r panel adolygu ystyried eich cais.
Ein sianelau cymdeithasol
Hawlfraint Children in Wales 2022,
Cedwir Pob Hawl,
Elusen Gofrestredig 123456,
Cwmni cyfyngedig drwy warant 654321.
Web design by Teamworks