Maethu: Sut i wneud cais
Yr unig rai sy’n gallu gwneud cais i’r panel adolygu yw’r rhai y mae eu darparwr gwasanaeth maethu’n rhoi gwybod iddynt nad yw’n ystyried eu bod yn addas i fod yn ofalwyr maeth, yn dymuno newid eu telerau cymeradwyo neu’n tynnu eu cymeradwyaeth yn ôl, a bod llythyr y sawl sy’n gwneud y penderfyniad wedi ei anfon ar yr 2il Ebrill 2010 neu ar ôl hynny.
Gwneud eich cais
Mae’n rhaid i’ch cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a chynnwys y canlynol:
- y rhesymau pam rydych yn anghytuno gyda dyfarniad eich darparwr gwasanaeth maethu,
- dyddiad y llythyr a dderbynioch gan eich darparwr gwasanaeth maethu yn rhoi gwybod i chi am y dyfarniad ac
- enw a chyfeiriad eich darparwr gwasanaeth maethu. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gael gwybodaeth ganddynt y bydd ar y Panel Adolygu ei angen.
Mae’n rhaid i chi wneud eich cais o fewn 28 diwrnod calendr o ddyddiad llythyr y darparwr gwasanaeth maethu.
Gallwch anfon eich cais atom ni drwy’r post, ffacs neu e-bost. Mae’n bwysig nad ydych yn anfon eich cais i unrhyw gyfeiriad arall gan y bydd hyn yn peri oedi wrth i’r panel adolygu ystyried eich cais.
Ein sianelau cymdeithasol
Hawlfraint Children in Wales 2022,
Cedwir Pob Hawl,
Elusen Gofrestredig 123456,
Cwmni cyfyngedig drwy warant 654321.
Web design by Teamworks